Beth yw Conwy Ifanc?
Mae Conwy Ifanc yn wefan rhyngweithiol sydd yn cael ei redeg gan Wasanaeth Ieuenctid Conwy Ifanc ar gyfer pobl ifanc sydd yn byw yn Sir Conwy. Mae'r wefan yn le creadigol ble galli di roi dy farn a meddyliau drwy luniau, erthyglau a fideos a hefyd cael mynediad i wybodaeth a chymorth.
Pam?
Efallai nad wyt ti'n gwybod, ond fel person ifanc o Gonwy mae gen ti hawliau gallai neb gymryd oddi wrthyt ti. Mae Conwy Ifanc yma gan fod gen ti'r hawl i rannu dy farn, a hefyd yr hawl i gael mynediad at wybodaeth sydd yn hawdd deall, yn gyfoes ac yn ddibynadwy.
Felly, os wyt ti rhwng 11 a 25 oed ac yn byw yng Nghonwy, dyma DY LE DI!
Sut?
Drwy gofrestru gyda Conwy Ifanc (mae hyn yn cymryd ychydig funudau ac yn hollol am ddim) galli di roi sylwadau ar erthyglau pobl eraill, rhannu dy feddyliau, barn a chreadigrwydd gyda phobl ifanc eraill yng Nghonwy ac efallai gweddill Cymru hyd yn oed.
Os wyt ti angen cymorth, yna cysyllta gyda ni ar - post@conwyifanc.com
Am syniadau a gwybodaeth bellach ar sut i fod yn rhan clicia yma.

